Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eb Bedwyr: "Rhaid bod y rhin
A ddywaid Myrddin ddewin
Yn y grawc o'r goeden grin.

"Gwae i'n tud o frud y fran,
A drwg oedd ei darogan—
Na fid cryf heb gleddyf glân.'

"Rhag y drachas dras, pwy drig
Weithian? Cwympodd dan ei dig
Uthr lewder Arthur Wledig!

"Di, falch lafn, Caledfwlch lym,
Draw na throed dy rin na'th rym,
O thrydd Arthur oddi wrthym!"

Ceisiodd Bedwyr bob cysur oedd ddichon
Wrth ddychwel yn brysur-
"Bid waith cad, bid waetha cur,
Mae y wyrth nad mwy Arthur!"

Yno ger bron y Brenin,
Wele ef yn plygu glin,
O barch, i gael ei arch o,
Eb Arthur, ar saib, wrtho:—

"Hir y buost a'r bywyd
Mau sydd yn byrhau o hyd;
Mynega imi'n gymwys
Ba argoel sydd, na fydd fwvs."