Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond cyn iddo daro'r dwr,
I'w wyneb daeth rhyw gynnwr';
Ar hyn o'r llyn cododd llaw
Gadarn, gan fedrus gydiaw
Yn ei garn, ac yna i gyd,
A deheurwydd drud wryd,
Codi'r cleddyf a'i chwyfio,
Gwaniad a thrychiad dri thro;
Yna'n ol hynny, wele,
Tan y dwfr y tynnwyd e!

Draw ar hynny aeth Bedwyr ar unwaith,
A buan y croesodd y marian maith;
Meddyliau chwim oedd eilwaith drwyddo
Efò yn gwibio, rhwng ofn a gobaith.

"A fu im, diau," eb ef, "mai dewin
Gwybodus a'i peris drwy rymus rin,"
Ac aeth rhwng grug ac eithin, a thrwy'r fron
Lle'r oedd y meillion, ger bron y Brenin.

"Ba ryw antur fu, Bedwyr ?" ebr yntau
Yn wannach ei lais gan nych ei loesau;
"Dyred, byr fyddo d'eiriau, a dywed
Im rhag fy myned gan fyrred f'oriau."

Eb Bedwyr Arglwydd, llyma ddigwyddodd;
Y llain a dewlais; llaw wen a'i daliodd;
Trithro yn hy fe'i chwyfiodd, heb ballu,
Ac yna'i dynnu i'r eigion danodd."