Trwy ddwfn gysgodion tewfrig goed y glyn,
Ni threiddiai namyn goleu tyner, gwyn;
Eithr ambell lain agored rhwng y gwŷdd
O lif aur wawl y dydd yn cronni llyn.
A thrwy rigolau hirion yma a thraw,
Mân wythi aur yn saethu ar bob llaw,
Nes darfod ym mhellterau'r cysgod dwfn
Fel meinion byst haul hinon wedi glaw.
'Roedd gyfliw'r blawd ysbyddad ar y pren
Ag ysgafn ewyn brig y waneg wen
Pan dorro'n frwysgflaen ar fwsoglyd faen,
A gwreichion haul yn gawod am ei phen.
Yr oedd y perthi yn eu gwyn i gyd
Fel offeiriadon ar ddefosiwn mud,
A'r deri preiffion fel pileri nadd
Teml Anian, lle nad oedd na gwae na gwŷd.
Rhos gwylltion hyd y llwyni megys cain
Fân glychau mud ynghrôg wrth raffau main,
Ac ambell wrysgen gynnar yno'n dwyn
Ei grawn, fel gleiniau gwefr, ymhlith y drain.
Ym mrig yr hwyr disgynnai'r gwlith i lawr,
A'r awyr laith yn drom gan beraidd sawr
Y blodau, nes oedd canwelw niwl y glyn.
Megys mygydarth allor Natur fawr."
Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/42
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon