Nid ydyw hwnnw ond breuddwydiwr ffol
A garo'r blodau yn lle tyrchu'r ddol
Am fwyn i'r gwr sy'n son am godi dyn.
A'i ddwyn ymlaen, ac yn ei ddal yn ol.
Gan fyrred hoedl a phrinned amser dyn,
Ni ddylai'u treulio, megys drwy ei hun,
I edrych ar brydferthwch blodau gwyllt—
Oni ddaw iddo dâl am dynnu eu llun.
A minnau, er y gwn mai celwydd mall
Yw truth y twyllwyr llyfn a'm geilw yn ddall,
Nid oes a'm gweryd rhag eu celwydd hwy
Cyd na bo gael y gwir, er gweld y gwall.
Gwn weithian, mynd a wnaeth y gwawl a'r gwir,
Y dydd y'm dysgwyd am addewid hir,
I werthu braint fy ngeni—codi ffos
Neu dorri gwrych a throi a thrin y tir.
Nid rhyfedd mwyach na ddaw imi'r nef
A gollais gynt, er llawer truan lef;
Yn ol cyweirio'm gwely lle yr wyf,
Nid oes i mi ond gorwedd arno ef.
Pe medrwn siarad rhagrith llyfn heb dawl,
Diameu y dôi imi uchel fawl,
Ac arian teg a wnaethpwyd, gywraint waith!
Er hudo dyn i fyw yn rhwydau diawl.
Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/44
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon