Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAB YR YSTORM.

FE lamodd y nos i'r wybrennau,
Lle gynneu 'roedd goleu claer wyn;
Mae'r bryniau â niwl ar eu pennau,
A tharth hyd waelodion y glyn;
Daw'r awel leddf, hir, fel uchenaid
O galon ddofn, ddistaw y coed,
A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn cofio ei hoed.

Daw ysbryd y storm i gyfarfod
A minnau ar ganol y rhos;
Ymdorchodd y fellten, a'i harfod
Fel dydd rhwng dau eigion o nos;
A rhwygodd y daran yr entrych-
Rhwyg, adrwyg, llam, adlam, a su-
Chwardd dithau fy enaid pan fentrych
I ganol y rhu!

Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo,-
Mae'n awr yn chwibanu'n fy nghlust;
Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo,
Daw'r glaw ar fy nhalcen yn byst;
O! wynt, tro dy donnau am danaf,
A throch fi, di law, yn dy li,
A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf
Eich angerdd gwyllt chwi!

Mehefin, 1903.