Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DYN A DERWEN.

HWYRDDYDD haf, dan wybren glir odidog,
Bywyd ar ei oreu yn y fan,
Chware'r ydoedd plentyn bychan gwridog
Dan ganghennau derwen fawr y llan.

Chware wnaeth y plentyn bach nes blino,
Yna distaw orwedd ar y llawr;
Gwelodd un o frigau'r pren yn crino—
Meddai, "Faint yw'th oed di, dderwen fawr?"

Hwyrddydd haf, dan wybren glir dymherus,
Bywyd eto fyth yn llenwi'r fan,
Eiste'r ydoedd henwr yn flinderus
Dan ganghennau derwen fawr y llan.

Mawr yr oedd yr henwr wedi blino,
Distaw y gorweddodd ar y llawr;
"Ble," eb ef, "mae'r brigyn oedd yn crino?
Ieuanc ydwyt fyth, O dderwen fawr!"

Heno, huna'r henwr yno'n dawel,
Mae ei garreg fedd yn ddarnau'n awr;
Ond mae'r pren yn dawnsio yn yr awel—
Beth yw dyn i ti, O dderwen fawr!

Hydref, 1902.