Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWLAD Y TYLWYTH TEG.

I.
CLYWAIS son gan un a'm carai,
Ddyddiau gloewon
Ieuanc oed,
Fod y Tylwyth Teg yn chwarae,
Dawnsio'n hoewon
Dan y coed.

II.
Chwiliais hyd y dolau ganwaith,
Dan ganghennau
Derw y fro,
Gwelais hwy yn dawnsio'n lanwaith
Fan ddolennau
Lawer tro.

III.
Lawer noswaith, hir ddisgwyliais
Lle'r ymionnynt
Wedi hyn,
Ond ni welais, er a wyliais,
Un ohonynt
Yn y glyn.