Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DAEAR A NEF.
[ER COF AM FY MRAWD, A FU FARW YM MLODAU
EI DDYDDIAU, TACHWEDD 13, 1905.]

HIR wyliai chwaer, un noswaith ddu,
Wrth wely angau brawd;
Un arall yno yn gwylio a gaid
Nas gwelai llygaid cnawd.

O bang i bang, gwanycha'i gwyn,
Eu dwyn yn hwy ni all;
"Mae'n myned "ebr y drist ei gwedd,
Mae'n dyfod" medd y llall.

Un cryndod hir, un isel nâd,—
Dduw dad, lonydded yw!
Medd merch y ddaear "Marw yw ef!"
Medd merch y nef "Mae'n fyw!"