Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CARIAD.

Tanto gentile e tanto onesta pare, &c.
(La Vita Nuova," Dante).

MOR fwyn a glân fy Rhiain pan oblygo
Ei phen i gyfarch arall, fel y tery
Bob tafod cryn yn fud, ac fel na phery
I syllu arni lygad, o rhyfygo;
Mynd y mae hi gan glywed a'i hedmygo,
Yn ŵyl, a gwisg ufylltod arni ery;
Fel un a ddaeth i'r ddaear i ladmeru
Rhyfeddod nef; pwy bynnag a'i golygo,,
Larieiddied ydyw hi fel nad all beidio
I'r galon, drwy y golwg, à defnynnu
Mwynhad y rhaid ohono gyfranogi
Cyn ei adnabod ef; o'i gwedd, ysgogi
Mae ysbryd mwyn, llawn cariad; gan dywynnu,
Cyfarcha'r enaid "Boed it ucheneidio!"

Gorffennaf, 1904.