Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A daflodd hyd fil o ddail,
Gawod dros goed a gwiail,
O aur yr haf ir, a rhin
Ei flasus, rudd felyswin?

Edrych, er prudded Hydref,
Onid hardd ei fynwent ef?
Tros y tir, os trist ei wedd,
Mor dawel yma'r diwedd!
Nid rhaid i Natur edwi
Yn flin neu'n hagr fel nyni;
Onid rhaid Natur ydyw
Marw yn hardd er mor hen yw!

Hydref, 1906.