Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BARDD A BYWYD.

CAI'R bardd ei hen lawenydd,
Byw dan yr haul, bod yn rhydd,
A di ball wynfyd bellach—
O chai wir ffawd a chorff iach!

Llawen fâi'r awen a rhydd
Trwy lwyni, hyd rhyw lennydd,
Yn y lle y cai yn llon
Drwsio'i gwallt a rhos gwylltion;
Crwydro lle carai; edrych
Dilin aur banhadlen wych,
Aur a saif uwch pris hefyd,
Tlysach nag aur banciau'r byd!
Draw yn nheg dir unigedd
Cai bur hoedl, cai braw o hedd
Llwyn, mynydd, llyn a mawnog,—
Bro wen cornchwiglen a chog.
Gan nwyf cai ganu afiaith
Beunydd hyd y mynydd maith;
Gweled ymhell a gwyliaw
Drum ar drum yn codi draw;
Bedwen neu griafolen fal
Arglwydd hen ar glawdd anial,
Er gwaethaf gaeaf, a gwynt
Ar ei drystiog ruthr drostynt.

Im mae hiraeth am aros
Yn y grug ar unig ros,