Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BYWYD AC ANGAU.
Solvitur acris hiems grata vice veris et Favoni, &c.
[Hor. Car. IV. Lib. I.]
TODDI mae caled aea
Yn chwyl mwyn gwanwyn a'i chwa;
Weithion, âg offer gwthir
Llongau i'r tonnau o'r tir;
Ni chilia ych i'w loches,
Ni thrig yr arddwr wrth wres
Ei dân beunydd; gweunydd gan
Lwydrew ni chlaer belydran.
Yn awr o dan y lloer dêr,
Ei llu a gynnull Gwener;
Grasau cain, fe'u harwain hi,
A llon dduwiesau'r llwyni;
Ac yno'n gôr lle canant,
Dawnsio bob yn eildro wnant.
Fwlcan yntau'n cynneu cel
Danau 'i ofaint yn ufel..
Iawn waith coroni, weithian,
Bennau a thalcennau can
A daily myrtwydd, neu deg
Flodau, wrth gyfle'u hadeg.