Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac wedyn i Dduw'r Coedydd,
Aberth fo dan gysgod gwŷdd,
Oen, os oen a ddewis o,
Neu fyn, os myn a fynno.

Undrawd fydd Angau hendrwm
Yn nhŵr y llawn, yn nhy'r llwm;
Nid oes fudd, ni âd oes fer
Ar adeg hir roi hyder.
Daw'r ddunos chwith a'r rhithion
Y sydd â chymaint o son
Am danynt; daw mud annedd
Pluto i wywo dy wedd;
Unwaith y delych yno,
Ni'th rydd y ddis yn ei thro
Yn rhi y gwin; rhoi gweniaith
Ni chei, pan fych yno, chwaith,
I'r wyneb glân a daniai
Fab neu fun, bob un, lle bâi.