Prawfddarllenwyd y dudalen hon
HWYR YN YR HYDREF.
AETH haul i lawr gan liwio'r Eifl à thân,
A throi gwanegau'r mor yn arian byw;
Ar Eifion, dylif o dawelwch syw
A roes, a thano gwridodd Mon yn lân.
Ond ar Eryri yr oedd mantell orm
A dduai fel yr ai yr haul i lawr;
Mae Eifion weithian wedi newid gwawr,
Ac araul Fon yn duo rhag y storm.
Mae awel leddf yn suo drwy y coed,
A dafnau'r glaw oddiar ei hadain hi
Yn disgyn heno ar fy wyneb i,
A'r dail yn crynu'n ofnus wrth fy nhroed.