Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENID.

O! F'ANWYL, anwyl Enid,
Gwresoga fy nghalon i,
A deffry'r hen serch cynhenid
Wrth weled dy wyneb di.

Mor anial a fu'r blynyddau
Dreuliasom ni ar wahan;
Mor unig ac oer a'r mynyddau
Dan amdo yr eira mân.

Mor unig a'r mynydd bannaf,—
Mor oeraidd, fy Enid dlos,—
Dan amdo yr eira cannaf,
A duaf len elor y nos!

Mi gofiaf y noswaith gyntaf
Y gwelais dy wyneb di,—
Pan deimlodd fy nhynged fryntaf
Chwyrn guriad fy nghalon i.

Dy dâl fel od gaeafol,
A'th lygaid fel ser yn gain,
A'th rudd fel grawn y criafol
Yn gymysg a blodau'r drain.