Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond O! fe gyffroes ein tynged
A chreulon wahanodd ni;
Pa bryd y bu ofid cyn flynged
I serch mor hoff a'n hun ni?

Heibio ymlusgodd blynyddau,
Yn brudd a di gysur ac oer,
Megis y nos dros fynyddau,—
Dunos heb seren na lloer.

Ond bellach mae'r nos wedi darfod,
Aeth gaeaf ein serch ar ei hynt;
Gwn y doi di i'm cyfarfod
Cyn llonned a'r dyddiau gynt!