Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TIR IEUENCTID.

GWAE fi na fedrwn ganu megys cynt
Gerdd afiaith fy ieuenctid fel y bu,
Cyn bwrw o'm tynged i ei chysgod du
Yn llain na chyfyd, draw ar draws fy hynt.

Pei medrwn, canwn eto lawen gerdd,
A dodwn yn ei gwythi beth o'r gwin
A yfais innau à sychedig fin
Fel Trystan gynt ar frig y weilgi werdd.

Eithr heno, du yw tonnau'r môr i mi,
A llwyd yw'r ewyn ar eu brigau draw—
Ond tyrd fy Esyllt innau! dyro'th law,
A chanaf fel y cenais gynt i ti!

Am unwaith eto dyred gyda mi
I Dir Ieuenctid, lle mae "hendre werdd "
Dy gariad di a minnau,—canaf gerdd
Y bore unwaith eto gyda thi!

O Dir Ieuenctid! gartre hud, lle mae
Y Tylwyth Teg hyd heddyw fel erioed
Yn dawnsio'r hwyr yn gylchau dan y coed,
Heb ofni gwg na theimlo poen na gwae.