Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATGOF.

WELE nos welw yn nesu,
Daw yn ddwys a'i hadain ddu;
A haul i'w wely heli,
A daw'r lloer i wrido'r lli;
Wylo'n rhydd drwy lwyni rhos
Wna'r awel; cwyna'r eos
Mor groew ym mrig yr ywen.
A dyf fry uwch gwely Gwen.