Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWENONWY.

DISGYN hyd lethrau
A bronnau y bryn
Mae ef tua'r gad
Dros ei wlad yn y glyn.

Disgwyl ar lan
Brudd a llonydd y llyn,
Mae hi dan ymgroesi
A'i hwyneb yn wyn.

Gwenonwy!" medd ef,
"Goronwy!" medd hi,—
A gwadu eu holl iaith
Mae eu llygaid lli.

Iaith calon wrth galon
Yn unig yw,
Heb lunio 'rioed air
Ac heb dorri ar glyw.

Ni ddysgir mohoni
Mae hi yn reddf;
Ac nid anghofir—
Hi a dyf yn ddeddf.