DAFYDD AB EDMWND.
(COLLODD TRIGOLION HEN ARDAL DAFYDD AB EDMWND EU CYMRAEG AC NI WYDDANT DDIM AM EI WAITH NA'I ENW).
GARUAIDD dad melysaf freugerdd dyn,
A didlawd feistr ei delediwaf iaith,
Pan roddit dro, a'r fro gan Fai yn fraith,
Hyd las y lawnt lle bâi dy lusael un,
I'w bagad ros tebygud rudd y fun,
PA'i hwyneb i od unos mynydd maith;
Neu, frig yr hwyr, a'r gaea'n llwm a llaith,
Ba lys di ail a fâi dy blas dy hun!
Datganai dy ddisgyblion wrth y tân
Y feddal gerdd a fyddai ail y gwin,
A gwŷr a wyddai gamp y tannau mân
Yn bwrw o'u bysedd bob rhyw ryfedd rin;
Tithau, aur enau'r iaith, pan genit gân,
Fel osai per diferai dros dy fin.
A niwl yr hydref oer yn hulio'r tir,
A'r glaw'n fân leiniau cain hyd lwyni coed,-
A chalon drist ag anghynefin droed
Ar hyd ryw nawn bum innau'n crwydro'n hir
Gan holi plant y wlad am danad; dir