Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Na wybu'r rhain dy fyw'n y bau erioed,
A chan yr athro uniaith bach ni roed
Un wers o'th hanes, fab yr awen wir;
A mud yw yntau, oed, am danat ti,
Ni wyddai air am dy neuaddau hen;
Ni wybu'th fyw erioed, ni chlybu'th fri
Ar dafod gwlad-collodd ei lafar lên;
Nid eiddo ddoe ei dras na'n heddyw ni,
Ond bratiog estron iaith a thaeog wên!

Hydref, 1908.