Prawfddarllenwyd y dudalen hon
I.—MERCH YR IBERIAD.
I HELY aeth mab y Brython un dydd,
A chrwydrodd ymhell o dŷ ei dad;
Ar ol ei gŵn ar drywydd yr hydd,
Cyrchodd y wyllt anghyfannedd wlad.
A'r haul yn uchter y nef, e ddaeth.
I lannerch werdd ynghanol y coed,
A sefyll yno dan lwyn a wnaeth—
Ni welsai fangre decach erioed.
Teg oedd y dail a'r blodau i gyd,
Glân oedd y mwsogl aur dan droed,
Ond tecach y ferch a safai'n fud
Dan fedwen arian ynghwrr y coed.
Du oedd ei gwallt fel cwmwl y nos
Pan na fo seren ar faes y nef,
A thonnog megys merddwr y rhos
Pan grycho awel ei wyneb ef.
Gloewddu a dwfn oedd ei llygaid hi,
Llygaid a welai freuddwydion syn;
Ei thâl cyn wynned ag ewyn lli,
A'i mynwes megys yr eira gwyn.