A'r Brython eto'n ei gwylio'n fud,
Canu yn beraidd a wnaeth y ferch,
A theimlodd yntau ryfeddol hud
Ei chân, a'i galon yn glaf o'i serch.
Mynnai y Brython ei dal a'i dwyn
Adref yn wraig iddo ef ei hun;
Neidiodd yn hoew o gysgod ei lwyn—
Hoewach i'r coed y neidiodd y fun.
Chwiliodd yntau am dani yn hir,
A gwelodd hi'n dringo'r clogwyn fry;
Clywodd ei chân yn groew ac yn glir
Fel y diflannai mewn ogo ddu.
Ac ae y Brython beunydd ei hun
I'r llannerch werdd dan glogwyn y rhos.
I ddisgwyl eto weled y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.
Clywodd ei chanu, megys o'r blaen,
Mynych y gwelodd hithau ei hun
Fry yn ei wylio ynghysgod maen,
Ond, o symudai, diflannai'r fun,
Safodd ar odre y clogwyn mawr
Un dydd, a phan ddaeth, cyfarchodd hi:
"Riain y mynydd! dyred i lawr,
Tecach na merched y glyn wyt ti!"
Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/96
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon