Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwiliodd y pennaeth yn hir ei hun
Drwy goed y glyn, hyd fynydd a rhos,
Ond mwy ni welodd llygad y fun
Ag wyneb y dydd a gwallt y nos.

Pan wylai y plant am weld eu mam,
Rhyw ganu trist a glywai y tad—
"Gwylia fy merch rhag gofid a cham,
A chadw fy mab rhag perygl y gad!"