Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔊𝔴𝔶𝔯𝔡𝔯𝔬𝔞𝔡 𝔬'𝔯 𝔈𝔣𝔢𝔫𝔤𝔶𝔩.

Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca.

"Y mae yn rhyfedd genyf eich symud mor fuan oddiwrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwenych dattroi [neu wyrdroi] efengyl Crist." GALATIAID I. 6, 7.

"Y MAE yn rhyfedd genyf eich symud,"nid eich bod wedi symud, ond eich bod yn symud. "Mor fuan," mor fuan ar ol gwrando yr efengyl, mor fuan ar ol credu, mor fuan ar ol derbyn yr Ysbryd wrth wrandawiad ffydd, mor fuan ar ol i Grist wedi ei groeshoelio gael ei bortreadu o flaen eich llygaid chwi. "Y mae

yn rhyfedd genyf eich symud mor fuan oddiwrth yr hwn a'ch galwodd." Pwy yw "yr hwn?" ai Duw ai ynte Paul? Nid yw yr adnod yn dweyd. Pa fodd y mae penderfynu y pwnc? A ydyw yn bwnc i aros heb ei benderfynu byth, ai ynte a oes ateb i fod i'r cwestiwn? Pa fodd yr atebir y cwestiwn yn y fath fodd ag i fod yn sicr fod yr atebiad yn un cywir? "Yr hwn a'ch galwodd." Yn y Beibl y mae dau ddosbarth o adnodau ar bwnc y gair. Y mae un dosbarth, o'r hwn y mae geiriau y testyn yn un esiampl, yn son am alw heb enwi pwy sydd yn galw. Y mae amryw o ad-