Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu "yn ngras Crist." Galw i faddeuant, i edifeirwch, ond "galw yn ngras Crist." Beth all meddwl hyny fod? Buasai br braidd yn hyfdra i neb ofyn y cwestiwn oni bai fod atebiad yn bod wedi ei ddadguddio. Yn mha ysbryd y mae Duw yn galw pechaduriaid ato ei hunan am faddeuant? Y mae yn gwneyd hyny, ond yn mha deimlad? Y mae teimladau y Duw mawr yn eiddo iddo ei hunan. 'Does dim hawl genym i ofyn cwestiynau iddo am ei deimlad Ef. Ond os gwel Ef yn dda eu dweyd, y mae hyny yn bwnc arall. Ond y mae yr atebiad yn y cariad, yn y trugaredd a amlygwyd i'r byd yn mywyd ac angau Iesu Grist, yn hwnw y mae Duw yn gwahodd pechaduriaid ato ei hun am faddeuant. Felly, pe buasem yn gofyn, beth sydd yn y fynwes dragwyddol yn awr? raid dim ond troi i ddalenau y Beibl a gweled y cariad a'r cydymdeimlad oedd yn y Gwaredwr mawr. Yn y teimlad hwnw y mae y Bod mawr yn gwahodd pawb sydd yma i dderbyn maddeuant o'i law yn nhrefn yr efengyl. "Yr hwn a'ch galwodd yn ngras Crist."

"At efengyl arall: yr hon nid yw arall." Nid yr un gair yw "arall" yn y ddwy adnod; ac fel hyn y mae yn ol y cyfieithiad newydd: "At efengyl wahanol, yr hon nid yw arall." 'Does dim efengyl arall, chwi wyddoch. Un efengyl sydd. Un genadwri o eiddo Duw at fyd colledig sydd yn bod. Nid oes yr un arall. Ond dyma rywbeth eto, a rhywbeth yn perthyn iddi, sydd yn ei gwneuthur yn efengyl wahanol. Beth yw y gwahaniaeth? Y mae'r atebiad yn y seithfed adnod: "Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwenych dattroi efengyl Crist." Ac mae y chwant a'r ymgais i wyrdroi efengyl Crist yn rhoddi nodwedd wahanol i'r efengyl yn y pregethiad o honi. Am efengyl arall, 'does yr un yn bod. Ond fe eill fod yna wyrdroad, y fath wyrdroad ag i newid nodwedd yr efengyl gyda golwg ar ddynion. Sylwch hefyd ar y