Cyfiawnder yr Efengyl, —Gras Duw ar wahan oddiwrth Gyfiawnder Duw. Hwyrach y gellid dangos hyny mewn esiampl gyffredin fel hyn. Dyma ddyn yn byw yn gwbl oll ar garedigrwydd dyn arall, yn dibynu yn gwbl oll am gynhaliaeth ei fywyd, nid ar ddim y mae efe ei hunan yn ei wneyd ond yn hollol ar ras rhywun arall. Mewn canlyniad i hyny y mae mewn perygl parhaus o roddi ei droed ar gyfiawnder ac aberthu egwyddor er mwyn boddio y gwr y mae 'n byw ar ei garedigrwydd. Gall deimlo ambell waith na fedr fforddio cadw y fath beth a chydwybod. Gall yr hwn y mae yn dibynu arno ddwyn cymhellion mor gryf, y peth nesaf at orfodaeth, nes y bydd y dyn yn teimlo ei hunan dan rwymau i wneyd aberth o'r hyn y mae yn gredu yn gydwybodol ddylasai wneyd er mwyn boddio y gwr ag y mae yn dibynu ar ei ewyllys. Onid ydyw hi ddim fel yna, 'rwan? Yr wyf yn addef mai dyn diegwyddor iawn fuasai hwnw sydd yn cymeryd mantais ar fod un yn dibynu arno i wneyd iddo droi i'w farn ef ei hunan. Ond y mae gras un arall yn peryglu un i wneyd aberth o'i farn er mwyn boddloni y gwr ag y mae yn dibynu arno. Mae gras dyn yn peri rhywfaint o berygl i ddynion sydd yn byw ar y gras hwnw. Tybed na ddichon? Dyma ddyn yn byw ac yn credu ac yn teimlo mai ar ras Duw y mae yn dibynu am ei iachawdwriaeth, mai ar gariad un arall y mae yn dibynu am faddeuant o'i bechodau, ac am nefoedd i dragwyddoldeb ar ewyllys da un arall. Tybed nad yw y dyn hwnw mewn rhywfaint o berygl i wneyd aberth o'i egwyddorion er mwyn boddio y Duw y mae yn dibynu arno? Y mae yn sicr iawn y gwnelai oddieithr iddo deimlo fod y Duw sydd yn llawn o ras yn llawn o gyfiawnder hefyd. A oes rhai yn gwneyd felly? Pwy sydd yn gwneyd felly? Dacw rhyw ddyn yn byw bywyd o bechu, gan gyfrif ar ras Duw ar wely angau. Tybed y gallasai y dyn wneyd hyny pe credai
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/108
Gwedd