fod y Duw graslawn yn Dduw cyfiawn hefyd? Y mae yn cyfrif ar ei ras. Dyna'r drwg,—y mae yn cyfrif ar ei ras, ond yn cyfrif dim ar ei gyfiawnder Ef hefyd. Neu dyma ddyn eto fel hyn, yn camddefnyddio rhyddid yr efengyl. Y mae yma rywfaint o ryddid yn nhrefn yr efengyl. Rhyddid, rhyddid oddiwrth lawer iawn o bethau. Mae Paul yn y llyfr yma yn son am y rhyddid hwn. "I ryddid y'ch galwyd chwi." Ond onid oes dynion yn bod sydd yn defnyddio y rhyddid mae yr efengyl yn roi, yn arfer y rhyddid, fel y dywedai Paul, yn achlysur i'r cnawd? yn camddefnyddio y rhyddid sydd ganddynt fel dynion i deimlo fod yn rhydd iddynt i bechu, yn rhydd iddynt, os gwelant yn dda, i dori deddfau Duw? Gall y dynion hyny siarad cryn lawer am ras; ond pe buasent yn teimlo fod Duw yn Dduw cyfiawn yn gystal a Duw gras, ni fuasent yn gwneyd peth felly. Tybiwch fod dynion yn tybio mai digon i ras ydyw cyfarfod ar y Sabbath, canu am rad ras, canmawl gras Duw mewn cân, gair, a gweithred, a meddwl yn uchel, ond yn byw yn ddigon annuwiol y chwe' diwrnod arall. Fuasai y dynion hyny byth yn meiddio gwneyd hyny pe credent fod Duw gras yn Dduw cyfiawnder hefyd, oblegyd yn Nuw mae gras a chyfiawnder yn cyd—hanfodi. Yn yr Iawn, y mae gras a chyfiawnder yn cyd—ddisgleirio. 'Does dim rhagoriaeth i ras yn yr Aberth mawr fu ar y groes ar gyfiawnder ei hunan. Nag oes. "Yr hwn a osododd Duw yn Iawn i ddangos ei gyfiawnder Ef." A fuasai neb byth ar wyneb ein daear ni yn byw mewn pechod yn swn yr efengyl, gan ddiolch a chanmol gras, pe credent mai gras gyda chyfiawnder ydyw gras yr iachawdwriaeth? Onid yw gras yn teyrnasu? Ydyw; ond teyrnasu trwy gyfiawnder y mae. Onid oes maddeuant yn bod? Oes; ond maddeuant yn nhrefn cyfiawnhad ydyw. Onid oes anian i heddwch yn enaid pechadur? Oes, y mae; ond gofalodd Williams yn ei
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/109
Gwedd