benill roddi y gair cyfiawnder yn ogyfuwch â gras yn ein bywyd ni. Ac felly, gyfeillion, yn y goleuni yna, y ffordd oreu, y ffordd uwchaf, i ni ganmol gras Duw ydyw, nid ar gân, mewn mawl,—mae ffordd uwch yn bod na hona,—Meddwl yr hyn sydd yn iawn, teimlo yr hyn sydd yn iawn, credu yr hyn sydd yn iawn, gwneyd yr hyn sydd yn iawn, a'r egwyddor o gyfiawnder wedi ein meddianu yn gwbl oll, a hyny yn ganmoliaeth i ras. Gras Duw yn cael ei ogoneddu mewn gwneyd yr hyn sydd yn iawn. Lle bynag y rhoddir pwys ar ras heb gyfiawnder, y mae yna berygl i wyrdroad, i ymadawiad oddiwrth yr efengyl.
Yn ail: Rhoddi pwys ar Ras heb Grist; mae hyna yn Wyrdroad o'r Efengyl. Hwyrach fod hyn yn cyfarfod nid yn unig â gwall yr ydym ni sydd yn gwrando yr efengyl yn agored iddo, ond yn un o'r pethau ag y mae llawer o ddynion o natur anffyddol yn yr oes yma yn agored iddo, sef rhoi pwys mawr iawn ar gariad Duw, y cariad Tadol, a dywedyd, —Pwy eisieu Crist? Pwy eisieu Efengyl? Pwy eisieu Iawn? Crist? ïe, Crist. Pwy raid o Grist? Ac nid wyf yn meddwl mai yn mhlith amheuwyr yn unig y mae hyn, ond y gall fod yn ein mysg ninau. Y mae perygl oddiwrth hyn mewn dau beth.
1. Mae byw ar ras yn unig yn arwain dynion i golli parch iddynt eu hunain. Y mae yn bod felly mewn pethau cyffredin. Y mae y dynion sydd yn gweithio, gweithwyr a'u dwylaw neu ymenydd, yn meddu llawer iawn mwy o barch iddynt eu hunain na'r dynion sydd yn byw mewn diogi ac ar garedigrwydd pobl eraill. Ië, ond yr ydym ni yn myn'd i fyw ar ras Duw. Oni fyddai hyny yn peryglu i ni golli parch i ni ein hunain? Eithaf gwir, os af i deimlo fy hun, os af i fyw yn gwbl oll ar garedigrwydd Duw, ar dderbyn o law Duw. Sut