Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae o fwy gwerth na'r holl fydoedd sydd yn y ffurfafen. A Christ sydd i ddwyn y mawredd yna i'r golwg. Cauwch Grist allan o'r cwestiwn a 'does dim mewn gras ond sydd yn ein tynu ni i lawr. Rhowch Grist i mewn, ac yr wyf yn teimlo fy hunan yn greadur mawr.

2. Y mae byw ar Ras yn gwbl yn arwain dyn i fethu gwerthfawrogi yr hyn y mae yn ei gael oherwydd ei fod yn eu cael yn rhad. Mae dynion yn prisio pob peth yn ol yr hyn y maent yn dalu am danynt. Onid oes dynion yn bod nad ydynt yn gweled gwerth maddeuant? a'r rheswm yw, Gras sydd yn cynyg maddeuant rhad iddynt. Ond y mae y cwbl i'w gael am ddim, y cwbl i'w gael ond ei dderbyn fel y mae Duw yn ei gynyg. Pe buasai gweithio yn foddion i'w gael, fe fuasai hyny yn amlygu i rai ei werth. Na foed i neb o honom ni ddod i weled gwerth bendithion yr efengyl drwy eu colli a bod hebddynt, a dyoddef y canlyniadau o hyny. Ac yr wyf bron yn sicr am lawer o wrandawyr yr efengyl, nad ydynt wedi gweled gwerth maddeuant, a chyfiawnhad, a nefoedd, oherwydd mai gras sydd yn cynyg y cwbl iddynt "heb arian ac heb werth." Ond y mae y Duw mawr wedi gofalu na chaiff neb o honom ni feddwl yn isel am fendithion yr efengyl, oblegyd mai o ras y maent yn cael eu rhoddi, trwy gadw yn amlwg mai trwy lefain cryf a dagrau, trwy ing yr ardd ac angeu'r groes, y daeth iachawdwriaeth yn eiddo i ni. Pe buasai dim ond gras, heb Grist, yr wyf yn sicr y buasai pawb o honom yn sicr o feddwl yn rhy isel am yr iachawdwriaeth, —am Grist, ei Waith, ei Berson, a'i Aberth. Os rhad i ni, drud iddo Ef. Ac y mae gwerth y bendithion i'w cyfrif yn ol yr hyn a gostiodd i'w Berson anfeidrol Ef i'w dwyn yn eiddo i ni. Felly, gyfeillion, derbyniwn Ras a Christ, a derbyniwn faddeuant, a maddeuant gyda Christ.


Yn drydydd: Gwyrdroad o'r Efengyl yn sicr drwy roi pwys ar Ras ar wahan oddiwrth Weithredoedd. Ond dylid gosod y gweithredoedd yn y fan iawn. Un o'r drygau sydd yn codi oddiar fyw ar ras ydyw hyny. 'Does dim a wnelo gras ond â dyn fel derbynydd, ac y mae mewn dyn elfenau gwaith. Fuasai yr efengyl yn werth dim i ni pe na buasai yn cydnabod dyn ond fel derbynydd. Nid ydyw yn gymwys i ni, oblegyd y mae ynom ni gyneddfau gweithredu. Mae y teimlad i ddod allan mewn gwaith. Y mae y deall a'r rheswm i gymeryd rhyw ffurf ymarferol. Y mae mewn dyn elfenau i weithredu. A phe buasai yr efengyl ond yn cyffwrdd â dyn yn unig fel derbynydd, fe fuasai yn hollol anghymhwys, oherwydd rhaid i ni gael rhywbeth cymwys i'r oll ag ydym. A phe buasai gras ond yn rhyw gyffwrdd â ni yn unig fel derbynydd, buasai hyny yn sicr o fagu diogi ynom. Y mae ymorphwys yn bod ynddi, ond nid ymorphwys yw y cwbl. Y mae gwaith ynddi. Onid yw yr efengyl yn rhoi modd i orphwys? Gwir iawn, ond yr un fath a chwsg. Mae llawer iawn o honom yn treulio llawer iawn o'n hamser mewn cwsg. Nid y bwriad oedd rhoi cwsg i ddyn a dim arall; nage, ond rhoi modd i'r corff a'r meddwl dawelu, er mwyn codi oddiar y tawelwch i weithio mwy. Nid gweithio er mwyn cysgu, ond cysgu er mwyn gweithio. Y mae yma fan i ymorphwys, ond ymorphwys er mwyn gweithio, i wneyd rhywbeth dros yr Arglwydd Iesu. Ac y mae hyn yn ein harwain i ddau beth sydd yn gymwys i waith.

Un peth ydyw: Gwaith Gras ydyw rhoi awydd gwaith i ni. Gwaith gras ydyw rhoi maddeuant ynom. Ië, a gwaith gras ydyw rhoi ysbryd gweithio ynom hefyd. "Canys ymddangosodd gras Duw, yr hon sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr,