Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon." Beth sydd yn gwneyd hyny? Gras Duw. Un o bethau mawrion gras Duw ydyw rhoi ysbryd i waith yn enaid y pechadur, nad oedd yn meddu arno o'r blaen. Gras i roi maddeuant o bechodau a gyflawnodd; ïe, a gras i roi ysbryd ynddo i fyw yn dduwiol yn yr amser i ddyfod.

Y peth arall ydyw: Amcan eithaf Gras yr efengyl ydyw dwyn dynion i gyraedd nefoedd. Ond beth yw y nefoedd wedi ei chyraedd ? Dwyn dynion i wneyd gweithredoedd da. Mae rhyw ddynion yn siarad fel hyn,—Mai trwy weithredoedd y mae dynion yn myn'd i'r nefoedd. Eu meddwl yw, mai trwy sancteiddrwydd y mae bod yn ddedwydd. Ac os dedwyddwch yw prif elfen y nefoedd, trwy weithio y mae myn'd yno. Ond nid dedwyddwch yw prif elfen y nefoedd, eithr sancteiddrwydd, rhodio mewn gweithredoedd da i dragwyddoldeb. Nid o weithredoedd ond o ras, nid trwy weithredoedd ond drwy ffydd. Nid ydym yn dibrisio gweithredoedd da wrth ddweyd "trwy ffydd." Nid ffordd i'r nefoedd ydyw gweithredoedd da, ond y nefoedd ei hunan ydyw,—holl alluoedd yr enaid yn gwasanaethu Duw i dragwyddoldeb mewn gweithredoedd da. Nid gras yn unig sydd yn rhoi maddeuant, ond gras sydd yn rhoi ysbryd i weithio i gychwyn, a'r ysbryd hwnw i redeg yn mlaen mewn gweithgarwch i ddechreu, a hwnw yn rhan o'r drefn i berffeithio gweithgarwch mewn byd ar ol hwn.

Cymerwch, gan hyny, Ras,—gras yn y ffynhonell fawr, anfeidrol Ras a Chyfiawnder; yn y cyfrwng, Gras a Christ; yn yr amcan, Gras a Gweithredoedd Ac ond cymeryd Gras yn ei gysylltiadau, fydd dim Gwyrdroad o Efengyl Crist. Fydd yna ddim ymadawiad "oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yn ngras Crist."