𝔜 𝔓𝔞𝔯𝔠𝔥. 𝔍𝔬𝔰𝔢𝔭𝔥 𝔗𝔥𝔬𝔪𝔞𝔰, ℭ𝔞𝔯𝔫𝔬.
FEL PREGETHWR.
Gan y Parch. E. Wynne Parry, B.A., Bala.
MAE yn debyg na fu yr un pregethwr yn ddyfnach yn serchiadau cynulleidfaoedd ein gwlad yn ystod y deng mlynedd a'r hugain diweddaf na'r gwr anwyl y mae ei enw uchod. Cawsai ffafr yn ngolwg pob dosbarth o bob enwad, yn nghyd a'r lluaws mawr sydd heb fod yn perthyn i unrhyw enwad, dysgedig ac annysgedig, tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig fel eu gilydd. Edrychid yn mlaen gyda dysgwyliad siriol a hapus am ei ymweliad ag ardal ar un o'r gwyliau nodedig, ac wedi yr elai yr wyl heibio byddai ei sylwadau a'i gymhariaethau yn cael eu hadrodd a'u hailadrodd am amser maith. Er ei fod yn ei fedd er's dros bum' mlynedd, mynych y gwelir rhai yma ac acw ar hyd a lled y wlad yn gwenu trwy eu dagrau wrth adgoffa rhyw sylw tlws o eiddo Joseph Thomas.
Pa fodd y gwnaeth iddo ei hun le mor ddwfn yn serchiadau ein cynulleidfaoedd? Os cymherir ef a phregethwyr poblogaidd fu yn cydoesi ag ef yn ein gwlad, gwelir ar unwaith fod gwahaniaeth dirfawr rhyngddo a phob un o honynt. Ni feddai athrylith ddysglaer na llais soniarus Morgan y Dyffryn, na hyawdledd urddasol Dr. Saunders, na chwaith ystor gyfoethog o wybodaeth dduwinyddol a hanesyddol fel Dr. Hughes; ni feddai feddwl cywrain athronydd fel David Charles Davies, na thalentau a doniau amrywiol fel Dr. Owen