Thomas. Ac eto nid oedd neb o'r cedyrn hyn yn fwy wrth fodd calon mwyafrif y cynulleidfaoedd nag oedd efe. Ymdrechwn yn fyr roddi cyfrif am ei boblogrwydd mawr.
Yn un peth, yr oedd ganddo ymddangosiad dengar. Cafodd gorff lluniaidd, hardd, gwyneb oedd fel yr haul yn gwasgaru sirioldeb drwy y lle, ac, yn enwedig y blynyddoedd olaf, pan yr oedd ei wallt gwyn arianaidd yn goron ar ei ben, enillai ei olwg serch y gwrandawyr cyn iddo ddweyd gair. Hefyd, meddai alluoedd naturiol da. Gwir nad oedd yn feddyliwr dwfn nac yn dduwinydd mawr, eto nid oedd natur wedi bod yn grintachlyd wrtho ychwaith yn y cyfeiriad yma, ac yn arbenig meddai ryw graffder neillduol i adnabod dynion ac i gyfaddasu ei genadwri i gyraedd eu calonau. Credwn ei fod wedi astudio yr art o bregethu yn llawer iawn mwy nag a feddyliai neb. Gallai dyeithrddyn, wrth ei weled yn y pwlpud a golwg led wladaidd arno, a chlywed ei ddull diaddurn o lefaru, dybied mai drwy ryw ffawd dda, heb yn wybod iddo ei hunan bron, y cynyrchai effeithiau mor hapus ar y bobl. Camgymeriad hollol fuasai tybiaeth fel yna. Fel y mae arlunydd medrus yn ymddangos bron yn ddiofal wrth drin ei baent a'i bwyntel, fel pe yn eu taro ar ddamwain yma a thraw ar y canfas, ond vedi enill y feistrolaeth yna trwy flynyddoedd o astudiaeth galed a dysgyblaeth lem, a phob cyffyrddiad o'i eiddo ar y darlun yn gywir i drwch y blewyn, felly yr oedd yntau yn gwybod i'r dim beth i'w ddweyd. Er fod ei bregethau yn llawn o arabedd, gwyddai pa le i dynu y llinell-faint oedd yn ddigon i greu sirioldeb a mwynhad diniwed heb ddirywio i ysgafnder a gwamalrwydd. Byddai bob amser ar waith yn casglu defnyddiau, fel y wenynen o bob llysieuyn. Yn y tai lle y lletyai, yn y trên wrth fyn'd a dyfod i'w gyhoeddiadau, wrth daflu golwg dros golofnau y newyddiaduron, sylwai yn fanwl ar bob peth, a meddai y ddawn werthfawr i droi y cwbl yn wasanaethgar iddo fel pregethwr. Meddai lygad bardd, edrychai ar ddygwyddiadau bychan cyffredin y dreflan ddinod lle trigai, a chanfyddai o danynt a thucefn iddynt humour a pathos dwfn bywyd.
Gwelsom ef unwaith yn gwneyd cynulleidfa fawr yn Lerpwl yn foddfa o ddagrau drwyddi wrth adrodd ymddyddan syml oedd wedi cymeryd lle rhyngddo a phlentyn bychan chwech neu saith mlwydd oed mewn rhyw dy lle y dygwyddai letya. Yr oedd yr un bychan yn sefyll wrth lin y gwr dyeithr nos Sadwrn,