Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn ymgomio yn hollol ddiofn ag ef, ac yn dweyd holl hanes y teulu. Dywedodd am ei frawd hynaf oedd wedi bod i ffwrdd yn yr ysgol, ac wedi bod yn dyfod adref am y gwyliau o dro i dro, ond " un o'r dyddiau nesaf," meddai yr un bychan, "mae o yn dwad adre', a'r tro yma yn dwad adre' i aros." Sylw bach diniwed ddigon -ond aeth meddwl Mr. Thomas at lawer teulu wedi eu bylchu gan angeu, at rieni duwiol wedi eu galw adref ac yn edrych yn hiraethlawn am y diwrnod y byddai y plant i gyd wedi dyfod adref atynt, ac wedi dyfod "adre' i aros." Adroddai y gair hwn gyda goslef hynod o effeithiol a'r dagrau yn ffrydio dros ei ruddiau. Fel y derbyniai Moses bob math o roddion gan y genedl ar gyfer y tabernacl -aur, arian a phres, sidan glas a phorphor, ysgarlad, lliain main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, olew, llysiau, a meini onix, ac a droai bob peth i wasanaeth ty Dduw, felly casglai Mr. Thomas ddefnyddiau o bob man ac a osodai bob peth yn ei le mewn pregeth neu anerchiad at wasanaeth yr efengyl.

Elfen arall yn ei boblogrwydd oedd ei fod bob amser ar level y gynulleidfa. Siaradai iaith y bobl gyffredin. Gwir na ddisgynai byth unrhyw ymadrodd anghoeth dros ei wefusau, ni ddefnyddiai ddim anghyson â chwaeth dda, ac eto iaith y werin oedd ei iaith. Yr un modd am fater ei bregethau,-cludai y bobl gydag ef. Gwelwyd pregethwyr da, meddylgar, galluog, yn trin pynciau dyrus yn ddeheuig, ond yn myned o gyraedd corff mawr y gwrandawyr, ac felly y bregeth i fesur mawr yn ddifudd ac yn feichus, oddigerth i ambell un uwch ei gyrhaeddiadau a chyflymach ei amgyftrediad na'r cyffredin. Ond yr oedd ef yn ymlwybro fel y gallai pawb ei ddilyn-yn dweyd pethau syml ac agos at y bobl. Fel y mae bardd yn rhoi mynegiad i deimladau a meddyliau ag y mae miloedd wedi bod yn ymwybodol o honynt er heb erioed allu eu gosod allan mewn geiriau, a thrwy, hyny yn deongli y dyn iddo ei hun, felly byddai Mr. Thomas yn symud hyd lwybrau cynefin ac yn trin pethau o fewn cyraedd pawb, ond yn taflu rhyw swyn dros y cyfan trwy ei ddawn neillduol ei hun.

Eto, ni byddai yn ymwneyd llawer a gwirioneddau cyffredinol, penagored, ni foddlonai ar osodiadau abstract. Dyma un rheswm paham y mae llawer pregethwr cywir ac egniol mor flinderus i wrando arno ac mor ddieffaith. Dywed bethau digon gwir a phwysig, ond ychydig o argraff a wnant ar y gynulleidfa. Mae eu geiriau fel arfau