wedi pylu—nid ydynt yn tori i mewn i'r byw. Gwneir argraff ddyfnach yn fynych trwy hanesyn neu gymhariaeth, neu drwy ddefnyddio gair sydd yn codi darlun byw o flaen y meddwl na thrwy unrhyw swm o ymresymu moel. Gwelir fel y mae yr Iesu yn y bregeth ar y mynydd yn son am yr halen, y ddinas, y ganwyll, y brain, y lili, y porth cyfyng, y ty ar y graig, &c., er mwyn i'r pethau hyn fel cleddyf llym dau-finiog dori i mewn ac agor ffordd i wirioneddau pwysig i gyraedd y meddwl a'r galon. Gwyr pawb a gafodd y fraint o wrandaw Joseph Thomas mor nodedig yr oedd am hyn. Mantais ddirfawr hefyd iddo oedd ei gydnabyddiaeth lwyr å hanesion yr Hen Destament; yr oedd ef gartref yn llwybrau anhygyrch Joshua a'r Barnwyr a'r Chroniclau, ac oddiyno dygai lawer hanesyn dyddorol a phwrpasol i egluro ei bwnc. Gwnai hyn ei bregethau yn ddifyr iawn i'w gwrando, fel na flinid cynulleidfa gan awr a haner o bregeth, ac hefyd yn hawdd iawn eu cofio. Adroddid hwynt mewn ymddyddanion ar hyd y wlad am amser maith, ac felly parheid a dyfnheid eu hargraff.
Elfen arall bwysig iawn, fel yr awgrymwyd eisoes, oedd yr humour a lanwai ei natur. Gresyn na fuasai geiriau Cymraeg da am y ddau frawd hyn—humour a pathos. Rhyw ddau efaill ydynt, yn debyg iawn i'w gilydd ac i'w cael gyda eu gilydd bob amser. Credwn eu bod yn codi o galon fawr a dynoliaeth lydan,—na cheir hwynt byth mewn dynion bychain, culion, a hunanol. Anmhosibl yw rhoddi darnodiad boddhaol o honynt, ond cynwysa humour y gallu i wisgo dygwyddiadau cyffredin mewn gwedd ddigrifol, chwareus, a hyny yn llawn natur dda, heb ddim chwerwder na gwenwyn ynddo. Gwir fod gan Mr. Thomas allu i ddweyd pethau miniog iawn. Pan ymollyngai i feirniadu, gallai symio i fyny nodweddion, ac yn arbenig wendidau rhyw frawd, mewn brawddeg neu ddwy na anghofid byth gan y neb a'u clywent. Ond yr oedd yn ormod o foneddwr ac yn ormod o Gristion i ddefnyddio yr erfyn yma ond yn gynil iawn.
Ond am y peth arall—yr elfen humorous oedd ynddo—byddai hon yn byrlymu allan yn barhaus yn ei ymddiddanion a'i anerchiadau a'i bregethau nes peri llawer o fwynhad pur a diniwed hollol, a'i helpu i gyraedd amcan mawr y weinidogaeth. Ac yn nglyn a hyn yr oedd yn llawn tynerwch i gydymdeimlo â galar a thristwch yn mhob man. Gwnai y ddau beth yma ef yn wr anwyl iawn gan bawb.