𝔇𝔲𝔴 𝔞𝔪 𝔊𝔞𝔡𝔴 𝔓𝔢𝔠𝔥𝔞𝔡𝔲𝔯.
Gan y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno.
"Athraw, ai difater genyt ein colli ni?" MARC III. 38.
YR ydych i gyd mor gyfarwydd a minau yn hanes y storm yn mha un y llefarwyd y testyn yma, ac felly nid af i ymdroi i ddweyd hanes y storm. i chi. Mi gewch ei ddarllen eich hunain eto. Felly, yr wyf yn gadael pobpeth amgylchiadol. Yr ydych yn teimlo ar unwaith fod yma wedd gyhuddol ar y testyn. 'Does dim posibl i chi ddarllen y testyn yma yn ystyriol heb deimlo fod yma ryw wedd gyhuddol, y dysgyblion yn cyhuddo Mab Duw o fod yn ddifater yn nghylch eu dyogelwch. Yr ydych yn clywed swn felly yn yr adnodau ar unwaith. Yr ydym yn cael, pan fyddai brenhinoedd y ddaear fel Alexander Fawr ac eraill yn gwneyd anturiaethau mawrion mewn rhyfeloedd, eu bod yn gwneyd pob ymdrech i geisio cael allan beth oedd syniad y duwiau am eu hanturiaeth. Byddent yn myn'd a'r offeiriaid gyda hwy i offrymu i'r duwiau er mwyn eu cadw mewn tymer dda; yn myn'd