Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dewiniaid gyda hwy i egluro iddynt feddwl y duwiau, yn dal sylw sut y byddai yr adar yn ehedeg, a pha fodd y byddai y gwynt yn chwythu, er ceisio cael allan syniadau y duwiau am eu hanturiaeth. Wel, fy nghyfeillion, eich anturiaeth fawr chwi a minau ydyw myn'd trwy y byd yma, a'i dibenu hi yn y wlad well; dyna yr anturiaeth fawr. Ac os dymunwch wybod syniad Duw am yr anturiaeth, y mae i'w chael yma; ac ar hyny y ceisiaf aros am ychydig funydau. A dyma yr unig sylw a gaf wneyd ydyw,—

MAI NID DIFATER GAN DDUW EIN COLLI NI.

Fe ddymunwn i hyn aros ar eich meddwl chi, i fod yn destyn ymddyddan a'ch gilydd; ac wedi i chi fyn'd adref, gellwch ddweyd, dydi Duw ddim anı ein colli ni. Nis gwn i am ddim yn fwy tebyg o fod yn fendith i chi a minau na'r syniad yma, mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Mae dynion da a dynion drwg wedi cyhuddo Duw o hyn lawer gwaith. Cewch ddynion da iawn yn Llyfr y Salmau yn dweyd am Dduw, "Dyma ni," meddent hwy, "yn nghanol profedigaethau ac erledigaethau, yr wyt ti wedi ein hanghofio ni, wedi ein hanghofio ni ac yn meddwl dim am danom;" ac yn dweyd yn yr un Salm wed'yn, "dyma ni yn nghanol treialon a thithau wedi myn'd i gysgu," yn cyhuddo Duw fel yna o bethau nas gallai eu gwneyd; pobl dda a phobl ddrwg wedi gwneyd hyny lawer gwaith.

Wel, i mi beidio ymdroi,— Mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Gwelwch hynyna

Yn y lle cyntaf: Yn mwriadau Duw ar gyfer dyn yn y greadigaeth gyntaf yma. Y mae i'w weled yn amlwg iawn. Pe buasech yn ceisio cael allan briodoliaethau Duw ar wahan oddiwrth eu gilydd, yr wyf yn credu