Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai dyma y ffordd. Y mae Duw yn un galluog iawn —y mae ei weithredoedd yn dangos hyny. Mae yn un doeth—mae ei drefniadau yn profi hyny. Y cwestiwn mawr ydyw, a yw yn un da? Ydyw Duw yn dda? Wel, sut yr ydych yn cael hyny allan? Fel hyn, hyd y gallaf ddeall, y mae yn alluog, mae ei weithredoedd yn profi hyny; y mae yn ddoeth, mae ei drefniadau yn profi hyny; ond a ydyw yn un da? A ydyw am i'w greaduriaid fod yn ddedwydd? Yn y fan yna y cewch ddaioni Duw yn dyfod i'r golwg. A ydyw am i'w greaduriaid fod yn hapus? Wel, wrth i ni edrych ar waith Duw, yr ydym yn gweled fod yma bob darpariaeth i gynal y creaduriaid, i'w llywodraethu ac i'w dedwyddoli. Nid wyf yn gweled dim yn sicrhau yr etyb y byd ddyben Duw o'i greu ond fod Duw yn ei lywodraethu. A ydyw yn un da? Ydyw, y mae mor dda fel yr oedd pob creadur oedd yn meddu bywyd, yn ddigon uchel i fwynhau bywyd, yn ddedwydd fel y gwnaeth Duw ef. Nid yw pob bywyd yn ddigon uchel i fwynhau bywyd. Ond pob bywyd, am a wyddom ni, a greodd Duw ag oedd yn ddigon uchel i fwynhau dedwyddwch, yr oedd yn ddedwydd fel y gwnaeth Duw ef, fel nad oes dim byd yn fwy amlwg yn nhrefniadau Duw na'i ddaioni, a'i fod am i'w greaduriaid fod yn hapus. Y mae adnod yn rhywle yn dweyd, "Y. rhai sydd yn dioddef yn ol ewyllys Duw, gorchymant eu heneidiau iddo ef, megys i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yn dda." Fe fyddai un o'r hen dadau yn eich gwlad chwi yn dweyd yn ddoeth; felly byddai ef yn deyd, "fod gan bawb ffafr i waith ei ddwylaw, ac felly fod gan Dduw ffafr i ninau fel ei greaduriaid." Gallwn ni fentro cryn lawer ar Dduw fel ein Creawdwr. Mae ganddo ffafr i waith ei ddwylaw. Fe fyddai yr hen dad yn dweyd hyny lawer gwaith, "y mae gan bawb ffafr i waith ei ddwylaw." Gallwn fentro llawer ar Dduw fel ein Creawdwr. Wnaiff ef byth gam a ni.