Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! Greawdwr doeth! Heblaw hyny, pe baech yn edrych wedyn ar ddarpariadau Duw i adfer byd syrthiedig, yr ydych yn gweled mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Rhaid addef fod Duw, wedi i ddyn bechu, wedi ei droi allan o Eden y lle dedwydd, ffrwythlawn, a hapus, a breintiau lawer iawn yn perthyn iddo; ond trodd Duw ef allan i fyw mewn byd o sorod, byd o gystuddiau, a byd y byddai farw ynddo. Trodd Duw ef i fyd fel yna, ond throdd o mohono i uffern 'chwaith. Gallasai wneyd hyny, ac ni fuasai gan neb le i'w feio; ond wnaeth o ddim. Fe'i trodd i fyd o sorod, a throdd o mohono i uffern. Gallasai wneyd hyny, mae'n amlwg. Mae llawer yn cwyno fod porth y bywyd yn gyfyng. Rhaid addef mai porth cyfyng ydyw, ond dylem ddiolch ei fod yn borth heb ei gau eto; ac y mae miloedd o'n teuluoedd ni wedi myn'd trwyddo; ac nid yw wedi ei gau eto. Yr ydym yn cael fod Duw, wedi i ddyn gwympo, yn dyfod gydag awel y dydd ac yn rhoi yr addewid gyntaf o Had y wraig i'n rhieni cyntaf. Fe fum i yn meddwl, os bu brys ar Dduw erioed, mai dyna yr adeg y bu yn brysio; fod arno frys i ddechreu datod ei hen blan tragwyddol i godi byd wedi syrthio; yr oedd arno frys i ddyfod, daeth gydag awel y dydd i ddechreu ei ddatod. Yr oedd wedi cael pleser wrth ei ben yn y tragwyddoldeb, ac y mae yn dod gydag awel y dydd i ddechreu ei ddadblygu, ac i ddatod ei drefn fawr i adfer byd syrthiedig. Fe fum yn meddwl, os bu arno frys erioed, mai dyna yr adeg y bu Duw mewn brys,—eisieu gwel'd yr adeg i ddechreu dadblygu ei hen fwriad tragwyddol. Gwelwn yr un peth yn amynedd Duw. Rhaid addef fod gradd o amynedd yn cael ei arfer tuag at yr angylion syrthiedig hyd ddydd y farn, i ryw ddibenion nad wyf fi yn hysbys o honynt. Ond dylech gofio hyny yn wastad, fy nghyfeillion. Pan yn son am Ben-arglwyddiaeth Duw, dylem gofio, nad ydyw Duw yn gwneyd dim heb rywbeth teilwng ohono