Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun dros ei wneyd. Nid yw wedi ei ddadguddio i ni; ond y mae gan Dduw rywbeth teilwng ohono ei hunan dros bobpeth y mae yn wneyd. Ac felly y mae yn gallu goddef yr angylion syrthiedig i ryw ddibenion hyd ddydd y farn. Y maent hwythau yn gwybod hyny hefyd. Dyna un o honynt yn dweyd wrth Iesu Grist, "a ddaethost ti i'n poeni ni cyn yr amser?" Yr oeddynt yn gweled Iesu Grist yn dechreu arnynt cyn yr amser. Y mae Duw yn eu goddef un tro i brofi a themtio Job, ac y mae yn bosibl ei fod eto yn eu goddef i'ch temtio chwithau. Wni ddim na fydd cadwedigaeth pechadur yn y diwedd yn fwy gogoneddus wedi i Dduw adael tipyn o liberty iddyn nhw wneyd eu goreu, a Duw yn ei gadw er eu gwaethaf. Byddaf bron yn meddwl hyny weithiau. Fe fydd yn rhyw golofn yn iachawdwriaeth dyn fod y Duw mawr wedi ei gadw er gwaethaf pobpeth. Ond y mae Duw yn goddef dynion nid i'r un dyben, "Cyfrifwn amynedd Duw yn Iachawdwriaeth." Rhyw gyfle i ddyn gael gafael ar iachawdwriaeth ydyw tymor bywyd; a geiriau trwm iawn ydyw y geiriau hyny sydd yn cael eu dweyd am ddyn, ei fod wedi para yn anufudd tra y parhaodd hiramynedd Duw. Gwyliwch, bobol, i hiramynedd Duw ddarfod, a'ch cael yn anufudd. Nid yr un dyben sydd wrth oddef dynion ag wrth oddef yr angylion syrthiedig. Gwelir hyny yn amlwg iawn yn hanes yr hen fyd. Tipyn o ffordd y mae Duw wedi drefnu cyn myn'd a ni i dreial ydyw y byd yma, a dyma heno yn gyfle i chi setlo gyda'r Barnwr cyn cyraedd yno; a gwyliwch gyraedd yno heb setlo. Peth ffol iawn fydd myn'd yno heb setlo. Y mae yn fanteisiol iawn i setlo heno hefyd. Mae ffordd maddeuant yn rhad. Ond os ei di i'r jail, ddoi di ddim oddiyno hyd nes y teli y ffyrling eithaf. Rhyw le i setlo, ag y mae y Duw Mawr wedi roi i chwi a minau, ydi'r byd yma. Ac os na setlwch chi yn y tymor y mae Duw wedi roi i chi, setlwch chi ddim