Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pe caech chi fil o flynyddoedd i setlo. Ni ddarfu i mi ddeall fod dim dadl erioed wedi ei roi yn erbyn y tymor y mae Duw wedi roi ini. Ac os na fydd y peth wedi ei setlo yn y tymor y mae Duw wedi roi i ni, wnaem ni fawr well pe caem ni dymor mwy. Heblaw hyn, y mae Duw yn ei drugaredd wedi troi y byd yma yn rhyw hospital i wella dynion. Byd y mendio ydi hwn. Gwyliwch fyn'd o hwn heb fendio. Fendiwch chi byth wedi myn'd oddiyma. Byd y mendio ydi hwn. Hyd y galla i ddeall, y mae trugaredd Duw wedi troi pobpeth yma braidd yn foddion i'n mendio ni. Hyd yn nod y pethau ddo'th yma trwy bechod—y maent wedi eu troi yn foddion i wella dyn gan drugaredd Duw. Dyna ddyben y cwbl. Fe fyddaf bob amser yn gynil iawn wrth son am gosbedigaethau, yn o hwyrfrydig ac ara' deg yn son am danyn nhw. Charwn i ddim dweyd nad oes cosbedigaeth. Ond yr wyf yn credu am oruchwyliaethau Duw tuag atom yn y byd yma mai ceryddon ydynt ac nid cosbedigaethau. A dyna un gwahaniaeth rhwng cosb a cherydd, mai gwella dyn ydyw amcan y cerydd; nid dyna yw amcan cosb. Y mae amcan arall. Y mae gan Dduw ei gosbedigaethau a'i geryddon. Mae gan y wlad gyfraith, a chanddi ei cheryddon a'i chosbedigaethau. Tipyn o flynyddau yn ol yr oedd yna un barnwr yn cyhoeddi dedfryd marwolaeth ar ddyn ieuanc, un o'r rhai ieuengaf a gosbwyd erioed. 'Roedd o wedi bod yn ngafael y gyfraith lawer gwaith o'r blaen. Ond dyna ddeydodd y barnwr wrtho—bachgen oedd o,—Wel, y'ch gwella chi oedd y dyben o'r blaen, ond dydi gwella ddim yn amcan 'rwan; erbyn y tro hwn mae hi wedi dwad yn gosbi. A credu yr ydw i mai ceryddon ydi goruchwyliaethau Duw tuag atom yn y byd yma i'n mendio, a gobeithio ein bod ni yn mendio. Ac fel y mae hi yn y claf—dai mawr yna, 'does neb i gael bod yma os na fydd gobaith i'w wella. A byddaf yn meddwl hyny