weithiau. Nid yw y Beibl yn celu hyny, ond fyddaf fi ddim yn dewis son llawer am eu colliadau. Byddaf yn gynil wrth son am bechodau pobol Dduw. Fe fyddaf yn gwybod fy mod yn son am bechodau ag y mae Duw wedi eu maddeu er's llawer iawn, Ond rhaid addef eu bod wedi methu. Dyna Noah. Mi fethodd yntau, ond 'doedd dim goleu ar ei graig ef, dim goleu. Ond erbyn hyn, mae goleu ar y creigiau bron i gyd. Dacw Judas yn gwerthu ei Arglwydd. Gofalodd Duw am dipyn o drugaredd; a beth feddyliech gafodd trugaredd Duw i wneyd goleu? Ei grogbren,—rhywbeth i bawb gilio yn mhell oddiwrtho. Trugaredd Duw fu yn ei gosod. "Llusern yw dy air i'm traed." Beth yw y Beibl? Goleudy i ti wel'd yn mha le i ti roi dy droed i lawr yn anialwch y byd yma.
Heblaw hyny, dyna beth arall, rhaid i mi just ei gyffwrdd, a dim ond hyny, y mae hyny yn ddigon,dyna ydyw: Y draul yr aeth Duw iddi i gael trefn i'n cadw. Gallwn ddweyd fod hyn yn ddigon i brofi y pwnc yma, nad ydi Duw ddim am ein colli. Y mae y draul y mae Duw wedi myn'd iddi i'n cadw ni yn ddigon ynddi ei hun i brofi mai nid difater gan Dduw ein colli ni. Pan fyddaf yn edrych ar waith Duw, fydda i byth yn gweled Duw yn gwneyd dim heb fod ganddo ddigon wrth gefn. Faint o fydoedd wnaeth o? Wn i ddim, ond gwn y buasai yn gwneyd ychwaneg pe buasai angen ychwaneg. Ond pan roddodd Duw ei Fab, fe fyddaf yn credu fod Duw yn rhoi o'i eisieu megys, Duw yn rhoi o'i eisiau. Pe baech yn mesur cariad y rhoddydd ar wahan i 'stad a theimlad ei galon at yr achos, gwnaethech gam mawr iawn. Rhodd fach iawn oedd eiddo y wraig weddw, ond calon noble iawn, —y fwyaf yn y lle o lawer. Ond am ein Duw ni, wnaech chi ddim cam ag Ef pe baech yn mesur ei galon wrth faint ei rodd. A phan roddodd Duw ei Fab, dyma un rodd sydd yn ddigon i fesur maint ei gariad tragwyddol. Wnewch chi ddim cam â chariad tragwyddol Duw wrth gymeryd hwn yn gorsen fesur. Fe roddodd Duw o'i eisiau wrth roi ei Fab. Y mae yma lawer iawn o bethau wedi dod i'r golwg mewn