Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysylltiad a threfn cadw dyn. Y mae rhai yn meddwl y buasai Iesu Grist yn ymgnawdoli pe buasai dyn heb bechu. Wni ddim; 'does gen i ddim Beibl arno, a 'does ganddynt hwythau ddim 'chwaith. A'r Beibl ydi llyfr crefydd. Nid wyf yn gwybod hyny;—gwell genyf ei adael: ond yr wyf yn credu hyn, fod bodau rhesymol eraill heblaw dynion wedi cael mantais fawr ar yr ymgnawdoliad, ac mai yn y fan yma y maent yn gweled Duw egluraf. Fe fyddai yr hen dadau yn arfer dweyd, fel y gwyddoch, mai yn Eden y byddai duwinyddion yn arfer dechreu, ond yn awr y maent wedi myn'd o Eden i Galfaria, ac y maent o'r farn na ddeallodd neb erioed Eden yn iawn ond o Galfaria. Y maent yn dweyd fod yn rhaid i'r seryddwyr fyn'd rhyw ganoedd o filldiroedd o ffordd er mwyn cael golwg iawn ar ryw ser penodol. Wn i ddim. Ond y mae yn sicr erbyn hyn fod Eden i'w deall yn well yn ngolwg Calfaria. Y mae yr angylion yn chwenychu edrych ar ryw bethau: yr oeddynt yn yr hen amser yn treulio cryn amser i syllu uwchben Eden, ond y maent wedi myn'd i rywle arall erbyn hyn. Fe dybir mai Calfaria yw y lle hwnw, a'u bod wedi myn'd yno er's talm. Y mae y Beibl yn rhoi ar ddeall mai yno y maent hefyd. Mae yn ddiameu mai yno y maent, ac mai yno y byddwn ninau,—mai yno y byddwn yn gweled Duw egluraf o un man arall.

Mae dyn hefyd yn ateb ei ddyben wrth gael ei gadw. Tipyn o beth ydyw i ni ateb ein dyben. Wrth gael ein cadw yr atebwn ni ddyben Duw yn ein creu. Peth mawr iawn ydyw i ni ateb ein dyben i'r Duw a'n gwnaeth. Mae hwn yn sylw pobl sydd yn fwy na mi; ac eto nid wyf yn gildio iddynt o fewn cylch yr Hen Feibl: hwn ydyw llyfr crefydd, ac ond i ni iawn ddeall hwn, fe ddylai hwn fod yn derfyn ar y cwbl. Os na rown warogaeth i'r Beibl, nid ydym yn talu y parch a