ddylem iddo. Os bu rhywbeth ag y maent i gyd o'r un farn arno, y maent ar hwn, y scientific men i gyd,—os bydd rhywbeth wedi ei greu i ddyben penodol, mae yn anhawdd gwneyd dim byd arall o hono. Wel, mae Duw wedi ein gwneyd ni i'w wasanaethu a'i fwynhau, a ddaw dim byd o honom ni yn unlle arall. Byddwch ar goll i dragwyddoldeb ond yn ngwasanaeth Duw ac mewn mwynhad o Dduw. 'Does dim posib' gwneyd dim arall o honoch. Yr ydym wedi ein gwneyd i hyny. Felly y mae hi gyda y corff yma. Y mae pob aelod yn y corff wedi ei wneyd i amcan penodol. Meddyliwch just am un esiampl—y llygad. Y mae wedi ei wneyd mor noble i weled. Beth arall fedrwch wneyd o hono? 'Does dim posibl gwneyd dim byd. Ond y mae wedi ei wneyd yn ogoneddus i weled. Felly y mae Duw wedi ein gwneyd ninau, i'w wasanaethu a'i fwynhau; ac ar goll y byddwn byth ond yn ngwasanaeth Duw ac mewn mwynhad o Dduw. Ac y mae y drefn fawr yma yn codi dyn i ateb y dyben oedd gan Dduw yn ei greadigaeth.
Heblaw hyny eto, wnaf fi ddim ond just enwi hwn i chi, fy nghyfeillion: Mae y ffaith fod Duw mor hwyrfrydig i roi dyn i fyny yn profi mai nid difater ganddo 'y'n colli ni Yr ydym yn credu hynyna er's blynyddoedd—mai Duw ydi yr olaf o bawb i roi dyn i fyny, ac yn credu hefyd mai peth olaf Duw ydi o. Yr ydan ni yn aml yn gweled pobol Dduw yn rhoi rhai i fyny, ond yn cael lle i gredu mai Duw ydi yr olaf bob amser i roi dyn i fyny. Mae o yn gomedd derbyn ateb—fel pe yn gwthio yn erbyn gobaith yn hytrach na rhoi y dyn i fyny. Yr wyf yn ofni fod pobol Dduw yn derbyn ateb y dyn ac yn ei roi i fyny, ond Duw yn gomedd gwneyd. Gwyliwch, bobol, fe fyddwch wedi rhoi yr ateb olaf cyn hir. Pa'm mae Duw mor hir yn rhoi dyn i fyny? Mae o yn dysgwyl i chi roi gwell