ateb i'r efengyl. Yr ydym yn cael pobol Dduw yn derbyn ateb y dyn, ond Duw heb roi y dyn i fyny. Yr oeddwn yn adwaen un felly. Yr oedd pawb wedi ei roi i fyny, ac yr oedd ar ei wely angau. Ac un tro, pan yn ymweled ag ef, gofynais iddo a oedd ef yn meddwl y talai i'w ddangos yn y nef? "Nag ydwyf, yn wir," meddai, "ond yr ydw i yn credu er's pum' wythnos bellach y talaf i'm cuddio mewn marwol glwy." Duw ydi yr olaf o bawb, bobol, i roi dyn i fyny. Rhaid i mi adael hyna yn union gyda chi. Yr wyf yn credu er's blynyddoedd y caf fy hunan yn y diwedd yn nwylaw Barnwr na rydd o mona i byth yn uftern os setlaf gydag Ef yn ei Fab. Gelli fod yn dawel, os ffiti di i fod yn y nefoedd, mi fyddi yno. Fyddai o fantais yn y byd i ti fyn'd yno os na fyddet yn gymwys i fod yn unlle arall. Ond os byddi yn gymwys i fod yn rhywle, penderfyna nad ei di ddim i uffern. Chrewyd mo uffern ar eich cyfer. Ond os cytuni di a'r angylion syrthiedig, yno y byddi di. Ond chrewyd mo uffern ar eich cyfer, bobol. Mae gen i ddau neu dri o syniadau ar y pwnc yma. Dyna un, Fod Duw yn meddwl cymaint o achub pechaduriaid fel na fydd yma ddim byd yn werth gan Dduw ddal goleu i ddynion wedi i bawb gael ei achub. Leiciech chi ddim bod yma wedi i bawb gael ei achub. Tebyg i'r hen fyd y bydd hi, 'rwy'n meddwl. Ni fuasech yn leicio bod yma wedi i Noah fyned i mewn i'r arch. Byd i achub ydi y byd yma. Peth arall, —Yr wyf yn credu fod Duw yn meddwl mwy o ddyn wedi ei greu yn Nghrist Iesu nag oedd yn meddwl o ddyn ar y dechreu. Mi gadwyd Adda ac Efa 'rwy'n credu; ond yr wyf yn credu fod y Cristion ar dir uwch nag fuodd Adda erioed, ac yn annhraethol fwy dyogel. Mae Duw wedi rhoi aml argraffiad o'r ddeddf, ond y maent yn cael eu colli. "Ond mynaf un argraffiad eto," meddai, "chollir mo hwnw byth." "Yn mhle yr wyt
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/135
Gwedd