Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drosto. Nid yw yn dirmygu y peth lleiaf wnei di drosto, ond y mae yn meddwl y byd o dy gadw di.

Dyna ydi cwestiwn yr efengyl heddyw, fy nghyfeillion,— Beth mae Duw yn ofyn? Gofyn a gaiff o dy gadw di. Dyma gwestiwn mawr yr efengyl, a diolch i Dduw am ddweyd cymaint am gadw pechadur. Mae o yn meddwl mwy am dy gadw nag fedri di wneyd drosto. A dyma gwestiwn mawr yr efengyl heno, gaift hi ein cadw ni? Chi sydd i ateb. Gwyliwch fod yn ddifater yn nghylch eich iachawdwriaeth, bobol. Pwy sydd yn ddifater? Dydi Duw ddim yn ddifater beth bynag. A gallwn ddweyd am hyny o awydd achub y byd sydd yn Eglwys Dduw, mai rhyw ddafn o'r môr o dosturi sydd yn y Duw mawr ydi o. Pe bae Duw yn eich rhoi i fyny, caech lonydd gan bawb arall. Wel, pwy sydd yn ddifater? 'Dydi y diafol ddim yn ddifater. Nag ydyw. 'Does neb yn ddifater os nag ydi yr annuwiol ei hun. Meddyliwch am Jonah yn y llong. Dacw y morwyr yn taflu darn o'r llwyth dros y dec yn y gobaith o allu morio yn mlaen, ac yn gwneyd egni mawr iawn i hwylio am y lan,—pob un yn galw ar ei dduw, a Jonah yn ddifater. Wel, y mae Duw wedi darpar i dy gadw di os wyt yn annuwiol. Y mae y diafol yn gwneyd ei oreu i dy ddinystrio, a thithau yn ddifater,—y dyn ei hunan yn ddifater. Beth fuasech chi yn ddeyd oedd Jeremiah yn ei haeddu? Y maent yn ei fwrw i'r pydew ar gam, am iddo ddweyd cenadwri yr Arglwydd wrth y bobol. Ond dacw Ebedmelech yn cael cenad i godi Jeremiah o'r pydew un diwrnod gan y brenin, ac mae o 'n myn'd a deg ar hugain o ddynion cryfion at y pydew i'w godi. Pa'm yr oedd yn rhaid cael deg ar hugain i'w godi? Yr oedd hyny yn ormod. Rhag ofn i neb eu rhwystro. Rhaid oedd ei gael i fyny. A dyna Ebedmelech yn myn'd, a'r rhaff ganddo, ac yn ei gollwng hi i lawr ac