yn siarad ac yn dweyd wrth Jeremiah, "Gosod y rhaff am dy ganol; dal sylw, mae yma dipyn o fratiau, wedi dwad yma i dy godi di yr ydan ni, ac am dy godi mor esmwyth ag mae modd." Ac yntau yn gomedd eu rhoi am dano wed'yn. Beth fuasech chi yn ddeyd am dano? Rhywbeth go debyg ydi hyna i wrthod yr efengyl. Mae trefn yr efengyl yn dy ymyl. 'Dei di ddim i uffern ond drwy ei gwrthod. Mae Duw wedi penderfynu dy godi, a hyny mor esmwyth ag y mae'n bosibl. Gwyliwn fod yn ddifater, bobol, a phawb arall yn teimlo yn gryf. Chaiff neb fantais ar dy golli, fydd o ddim o un fantais i neb. Fe gaiff yr hen bregethwyr gryn dipyn o golled, fe ä eu llafur ar goll. Y mae yna adnod yn rhywle yn dweyd fod yn rhaid i ni oll roi cyfrif i fyny. Mi fydd yr hen bregethwyr yn drist,eu llafur wedi myn'd yn ofer. Chaiff neb fantais o dy golli, ond y mae tipyn o fantais o dy gadw di i gryn lawer. Yr ydych yn cofio hanes y storm. Yr oedd y storm yn fawr, ond wedi y cwbl yr oedd yna Un yn y llong fedrai ei gwneyd yn dawel, ond yr oedd eisio i'r dysgyblion ei ddeffro. Cofiwch chwithau hyny,—mae eisio i chwi ei ddeffro, a gosodwch werth ar y pethau sydd. Yr oedd rhyw adnod wedi nharo i fel hyn,"Jeremiah yn wylo uwchben ei hen wrandawyr, ac yn wylo uwch eu pen am nad oeddynt yn gwella." "Pa'm yr wyt ti yn wylo uwch eu pen nhw, Jeremiah?" "Dydyn nhw ddim yn gwella, ac y mae'r adeg fwyaf fanteisiol i wella wedi myn'd heibio." Y mae dwy adnod felly yn Jeremiah, "Onid oes balm yn Gilead? onid oes yno physygwr? Paham na wellha iechyd merch fy mhobl?" a meddygon lawer yn Gilead i gyfarwyddo y bobol sut i ddefnyddio y balm. Wel, mae balm a physygwyr Gilead wedi methu, ac y mae Jeremiah yn wylo uwch eu pen nhw. Yr ydych wedi clywed y pregethwyr goreu glywch chi byth. Tybed nad oes neb gwell? Nag oes, neb gwell i chi, beth
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/138
Gwedd