bynag, byth eto. Yr ydach wedi clywed y rhai goreu glywch chi. Yr wyf yn hollol gredu fod y tymor gora i lawer wedi myn'd drosodd, a'r manteision goreu wedi eu colli. Pobol Gilead ydach chi, a phobol Gilead fyddwch yn y farn. Dyna fyddwch chi yn y dydd hwnw. "Pwy ydych chwi," meddai yr Iesu wrthych. "Pobol y stryt a'r stryt fuost ti yn dysgu ynddi." Pobol y stryt yna fyddwch chi a mina yn nydd y farn. Jeremiah yn wylo, maent heb wella eto, a'r amser goreu wedi myn'd heibio, yr adeg fwyaf tebyg i'r rhai hyn wella wedi myn'd heibio. Y mae genych gyfraith Duw a phrophwydi Duw yn eich cyfarwyddo, ac eto nid ydych yn credu. Dyma fi yn gadael y pethau yma, ddim ond dweyd hyn felly: Gaiff o eich cadw? gaiff o eich cadw? Y mae wedi meddwl llawer am hyny, ac yn meddwl mwy o dy gadw nag unpeth arall. Amen.
[Salem, Dolgellau, nos Sul, Ebrill 4, 1886.