Sylwadau o Bregeth ar Ephesiaid ii. 4-7.
Ystyr arbenig y testyn mawr yma ydi Trugaredd a Gras Duw wedi meddwl gwneyd enw iddynt eu hunain drwy godi y tlawd o'r llwch.
Yr ydw i yn credu hyn yn gryf,—nad ydi gweddi yr anuwiol ddim yn bechod os bydd o ddifrif: boed o can waethed ag y bo, os o ddifrif, dydi o ddim yn bechod iddo droi at Dduw. Leiciwn i ddim gadael yr argraff, fy nghyfeillion, ar feddwl dynion am Dduw, mai un anhawdd ei foddhau ydyw. Yr ydw i yn credu y gall dyn gael ei achub a gwneyd rhyw bethau i gyraedd rhyw radd o gymeradwyaeth Duw. Esiampl neu ddwy. Ahab oedd un, dyn annuwiol; am wni, nad felly bu o farw. Wedi iddo glywed y bygythion wnaeth Duw, plygodd o'i flaen. A dyma ddeydodd Duw wrth Elias, "Weli di, Elias, fel yr ymostwng Ahab?" Dyn mawr cryf oedd Elias, ond mae arna i ofn fod o wedi rhoi Ahab i fyny. "Weli di o yn ymostwng?" Blygodd o? Do, plygodd dipyn; plygodd ddigon i daflu y gawod i'r oes nesa; a dysa fo yn plygu dipyn bach chwaneg, mi fysa wedi plygu digon i'w safio byth. Yr oedd hyny o blygu wnaeth o yn ddigon i blesio Duw. Esiampl arall: y Ninifeaid, Duw yn anfoddlawn eu taro. Pa'm? Mae nhw wedi eu gwisgo mewn dillad na fedra fo mo'u taro. Beth ydi rheiny? Sachlian a lludw. Dyma y dillad, gyfeillion, fedr Duw ddim taro neb yn y rhain. Y Duw yna ydi ein Duw ninau, bobol.
Yr oeddwn i yn meddwl am ffordd Trugaredd o wneyd a ni yr un fath ag y mae rhyw air yn un o'r prophwydi. Duw yn deyd wrth y genedl pan oedd yn myn'd i Babilon am godi tipyn o arwyddion ffordd wrth fyn'd. "Wel, i be y gwnawn ni hyny?" medda nhwtha. "Gael i chi wybod y ffordd i ddod adre." "Ddown ni ddim adre," meddent. "O, dowch, mi ddowch yn eich hola," meddai Duw, "gadewch ambell bren ar eu penau, gwnewch ambell garnedd o geryg ar y ffordd; a phe baech chi yn marw yn Babilon,