Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi gewch ddeyd wrth eich plant am yr arwyddion." Felly y byddaf fi yn meddwl am Drugaredd Duw. Mae ganddi arwyddion ffordd wedi eu codi yn help i bechadur ddod ato, —gwrando gweddi'r gwael a'r tlawd, &c.

Y grisiau bendigedig ar hyd pa rai y bydd Trugaredd Duw yn codi pechadur. (1.) Wedi ein caru. Dyma y peth rhyfeddaf, i Dduw allu caru pechadur. Peth od iawn ydi cariad. Un elfen fawr mewn cariad ydi nad yw y draul a'r drafferth ddim yn ormod. (2.) Ein bywhau. Yr ydan ni yn son cryn dipyn am y nefoedd. Os wyt ti wedi cael bywyd yr wyt wedi cael peth mwy na'r nefoedd. Beth ydi'r nefoedd? Lle i'r bywyd yma i ddadblygu ac ymbleseru byth. (3.) Cyfodi. Dyna sut y dowch i fyny. Y mae yna faen ar dy fedd di, bechadur, a rhaid treiglo hwnw ymaith. Beth sydd yn treiglo y maen? Maddeuant. Ac wedi i'r maen gael ei dreiglo, yr wyt yn siwr o fyn'd i fyny wed'yn. A Duw yn unig fedr dreiglo y maen. (4.) Ein gorseddu. Wneiff Duw ddim gollwng gafael o honot nes dy wel'd yn cyd—eistedd a Mab Duw.

Y mae yn dda gen i feddwl hyny, fod ein cadw ni yn beth posibl. Beth bynag wyt, a beth bynag wnest, mae dy gadw yn bosibl heno. A gallaf ddweyd chwaneg,——mae dy debyg wedi ei gadw, a chollir mo honot tithau ond drwy i ti wrthod y drugaredd y mae Duw yn ei rad ras yn ei chynyg. Os wyt ti yn methu dwad, mi ddeydaf un adnod, os ydach chi o ddifrif am ddyfod, fy nghyngor bach ydi, gwnewch fel Ephraim—anfon at Dduw am gymorth, " O Arglwydd, dychwel fi, a mi a ddychwelaf." Gwnewch hona yn weddi. Gwyliwch oedi, y tragwyddoldeb mawr sydd gerllaw.